Mae gostyngiad o 13% wedi bod yn y nifer sy’n sefyll arholiad TGAU yng Nghymru, ac mae cwymp o 8% wedi bod yn nifer y disgyblion sy’n sefyll arholiadau AS.
Yn ogystal, am y drydedd flynedd yn olynol, mae nifer y bobol sy’n sefyll arholiad Lefel A (Safon Uwch), wedi disgyn – a hynny gan 5.3%.
Er bod y mwyafrif o bynciau wedi profi cwymp, mae’r nifer o bobol sy’n sefyll arholiadau AS a Lefel A Cymraeg Iaith Gyntaf wedi cynyddu.
Ffactorau
Mae sawl ffactor wedi arwain at y gostyngiadau yma yn ôl Cymwysterau Cymru, gan gynnwys newid ym maint y boblogaeth, a newid yn nifer y cymwysterau mae disgyblion yn dewis astudio.
“Dyma’r tro cyntaf i ni gyhoeddi data ar nifer y cofrestriadau ar gyfer cyfres arholiadau’r haf.” meddai’r Pennaeth Ymchwil, Tom Anderson.
“Rydym wedi edrych ar grwpiau blwyddyn a phynciau i ddeall y newidiadau yn y patrymau. Yn y dyfodol, byddwn yn adrodd ar dueddiadau allweddol ar gyfer arholiadau a gaiff eu sefyll gan ddysgwyr yng Nghymru.”
Yr ystadegau
TGAU: 334,095 yn 2017 i 290,640 yn 2018
AS: 48,965 yn 2017 i 44,995 yn 2018
Lefel A: 35,525 yn 2017 i 33,640 yn 2018