Mae dyn 24 wedi cael ei arestio a’i rhyddhau dan ymchwiliad, wedi i’r heddlu ddod o hyd i 64 planhigyn canabis ym Môn.

Yn ogystal â’r planhigion, daeth plismyn o hyd i declynnau ar gyfer cynhyrchu canabis, wrth chwilio adeilad yn nhref Caergybi.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach i gysylltu â nhw.

Cymorth y gymuned

“Dydan ni ddim am adael i bobol feddu ar, gwerthu na chynhyrchu cyffuriau yn ein cymunedau,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

“Fodd bynnag, dydan ni ddim yn gallu delio â’r broblem yma ar ein pennau ein hunain, ac mae help y gymuned yn allweddol i’n gwaith.”