Mae aelod o fand y Super Furry Animals wedi cyflwyno bag o fwd ‘ymbelydrol’, ynghyd â’i albwm diweddara’, i bob un Aelod Cynulliad.

Ag yntau’n gwisgo siwt wrth-ymbelydrol, fe osododd Cian Ciarán y pecynnau mewn rhes o flaen y Senedd, wrth i ymgyrchwyr eraill ymgynnull o’i amgylch.

Dyma oedd lansiad swyddogol ei albwm newydd, 20 Miliservierts Per Year, ond wrth siarad â golwg360, dywed mai “codi ymwybyddiaeth” am gynllun dympio oedd y prif nod.

Mae cynlluniau wrthi’n cael eu hystyried, a fyddai’n gweld tunelli o fwd ymbelydrol o orsaf niwclear Hinkley – yn Lloegr – yn cael ei dympio yn y môr ger Bro Morgannwg, 19 milltir o Gaerdydd.

Bydd Aelodau Cynulliad yn cynnal dadl ar y mater y prynhawn yma. Hyd yma, dim ond un Aelod Cynulliad sydd wedi derbyn ei becyn mwd/cryno ddysg, a Neil McEvoy yw hwnnw.

“Trychineb”

“Dw i’n siŵr mai canran isel iawn o bobol yng Nghaerdydd sy’n gwybod bod hyn yn ar fin digwydd,” meddai Cian Ciarán wrth golwg360.

“Felly mater o godi ymwybyddiaeth [yw hyn] a thynnu sylw i’r drefn. Dim yr albwm sy’n bwysig fan ‘ma ond y stori. Y drychineb, a’r ffordd mae’r Cynulliad yn bihafio. Mae’n gywilyddus.

“Dim y CD sy’n bwysig, ond beth sy’n digwydd mewn fan ‘na [yn y Senedd]. Y gobaith ydy bydd mwy o bobol yn gwybod beth sy’n digwydd ar eu stepen ddrws nhw.

Gallwch weld fideo o Cian Ciarán tu allan i’r Senedd isod: