Fe fydd £3m yn cael ei fuddsoddi i osod cladin newydd ar flociau uchel o fflatiau yng Nghasnewydd, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mi fydd yr hwb ariannol yn galluogi’r cwmni, Cartrefi Dinas Casnewydd, i osod cladin newydd ar dri bloc uchel yn y ddinas, a hynny yn lle’r cladin sydd yno nawr, sy’n debyg i’r hyn a oedd ar Dŵr Grenfell.

Y tri adeilad yng Nghasnewydd oedd yr unig rai yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru sydd â’r math o gladin a fethodd brofion diogelwch tân.

Fe gafodd y profion hyn eu cynnal yn sgil y drychineb yn nwyrain Llundain fis Mehefin y llynedd, lle cafodd 72 o bobol eu lladd.

Diogelu preswylwyr

Yn ôl Gweinidog Tai Ac Adfywio ym Mae Caerdydd, Rebecca Evans, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn “gweithio’n agos” â gwahanol sefydliadau ers y drychineb i sicrhau bod perchnogion ac asiantaethau yn cymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu preswylwyr.

“Fe wnaeth Cartrefi Dinas Casnewydd ymateb yn sydyn i ddiogelu preswylwyr drwy roi nifer o fesurau diogelwch tân yn eu lle, gan gynnwys system chwistrellu,” meddai.

“Ein tro ni yw hi nawr i’w cefnogi drwy roi’r buddsoddiad hwn a fydd yn galluogi Cartrefi Dinas Casnewydd i barhau â’u hymrwymiad i ddiogelwch preswylwyr heb gyfaddawdu ar eu cynlluniau hollbwysig i adeiladu mwy o dai cymdeithasol yn y ddinas.”