Mae elusen gwarchod anifeiliaid yn apelio am wybodaeth, wedi i farcud coch gael ei ladd gan drap yn Aberystwyth.

Cafodd yr aderyn ei ddarganfod yng Nghoedlan y Parc ar Fai 7, a’i gludo at filfeddyg lleol. Roedd coesau’r aderyn wedi’u torri, a bu’n rhaid ei ddifa er mwyn rhwystro dioddefaint pellach.

‘Trap jin’ oedd y ddyfais a gafodd ei defnyddio, ac er nad yw’n anghyfreithlon i fod yn berchen ar un, mae defnyddio’r teclynnau yn drosedd.

Mae’r RSPCA yn apelio ar drigolion Aberystwyth i rannu gwybodaeth ynglŷn â’r achos.

“Niwed difrifol”

“Mae’r dyfeisiau yma’n medru achosi niwed difrifol i anifeiliaid a phobol,” meddai Keith Hogben o’r RSPCA.“Gallan nhw niweidio unrhyw beth, a’r barcud yma oedd yr enghraifft ddiweddaraf o hynny.

“Dychmygwch petasai blentyn yn mynd yn sownd yn y trap yma. Mae’n gas gen i feddwl. Rydym yn ymchwilio i’r achos yma, ac yn awyddus i weld rhagor o wybodaeth yn dod i’r fei.”