Fe fydd Loteri Cymru yn cael ei ail-lansio “yn y dyfodol agos”, ar ôl i’r gweinyddwyr werthu’r busnes i gwmni loteri arall.

Fe aeth Loteri Cymru i ddwylo’r gweinyddwyr ym mis Mawrth, gyda dros 10,000 o bobol yn methu â chael mynediad i’w cyfrifon ar-lein.

Roedd pryder ar y pryd hefyd y byddai S4C yn colli dros £3m o ganlyniad i fethiant y cwmni, gyda’r swm hwnnw’n cynnwys £2.5m i’r cwmni a £600,000 o’r ffi am hawliau darlledu.

Ond mae S4C wedi mynnu bod yr arian hwn wedi dod o is-gwmni masnachol S4C, sef S4C Digital Media Limited (SDML), ac nid o’r pwrs cyhoeddus.

Gwerthu Loteri Cymru

Ar ôl mynd i’r gwellt ddechrau’r flwyddyn, fe gafodd Alistar Wardell a Jason Bell o gwmni Grant Thornton eu penodi’n gyd-weinyddwyr ar Loteri Cymru.

Erbyn hyn, mae’r ddau wedi cyhoeddi bod y busnes a’i asedau wedi cael eu gwerthu i gwmni Sterling Managment Centre Limited, sy’n gyfrifol am nifer o loterïau ar gyfer elusennau ledled gwledydd Prydain.

Bwriad y cwmni hwnnw, meddai’r gweinyddwyr, yw ail-lansio Loteri Cymru “yn y dyfodol agos”, ac maen nhw hefyd wedi cytuno i dderbyn y chwaraewyr hynny sydd ag arian ar ôl yn eu cyfrifon, i gymryd rhan yn y loteri newydd – neu gael eu harian yn ôl.

Gyda hyn, mae’r gweinyddwyr yn dweud y bydd Sterling yn cysylltu â chwaraewyr “yn ystod yr wythnosau nesaf”.