Mae Cyngor Ynys Môn wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gwerthu rhan o Gwrs Golff Llangefni, a hynny er mwyn gwella “gwasanaethau hamdden eraill yn lleol”.

Bwriad yr awdurdod lleol yw gwerthu 42 acer o’r cwrs golff a’r ffermdy ar y tir, gan gadw’r llain ymarfer ar agor at ddefnydd y cyhoedd.

Bydd y cyfalaf o’r gwerthiant yn cael ei ddefnyddio wedyn i gefnogi’r gwaith o “foderneiddio a gwella” gwasanaethau hamdden eraill yn Ynys Môn ac ardal Llangefni yn enwedig, meddai’r Cyngor.

Blynyddoedd cythryblus

Bu bron i’r cwrs naw twll, sy’n berchen i’r Cyngor, gau ym mis Mai 2015, a hynny er gwaethaf ei enwogrwydd am fod yn gwrs ymarfer i Danny Willett, pencampwr Meistri America yn 2016, pan oedd yn ifanc.

Ond fe gafodd y safle, a fu’n dioddef o golledion ariannol, ei hadfer ar ôl i’r fenter gymdeithasol, Partneriaeth Llangefni, ddod i’r adwy a chymryd cyfrifoldeb am redeg y cwrs.

Bu’r fenter yn rhedeg y Cwrs Golff a’r Llain Ymarfer rhwng Gorffennaf 2015 ac Ebrill 2017, ac fe gafodd y les ar gyfer y safle ei hymestyn tan Hydref 2018.

Ond ar ôl ystyried adroddiad a oedd yn nodi na fyddai estyniadau pellach yn briodol, mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn wedi penderfynu mai gwerthu sydd rhaid.

“cam hynod o bositif i’r dyfodol”

“Er ein bod yn lleihau’r ddarpariaeth golff yn eiddo’r Cyngor, bydd diogelu’r derbyniadau cyfalaf ar gyfer cryfhau’r ddarpariaeth Hamdden ar Ynys Môn yn gam hynod o bositif i’r dyfodol,” meddai’r Cynghorydd Carwyn Jones, deilydd portffolio Hamdden.

“Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn bod yna eisoes gyrsiau golff gwych ar draws Ynys Môn, a byddwn yn annog pobol i gefnogi’r cyrsiau golff yma.”

Ychwanegodd hefyd fod y Cyngor yn chwilio am bartner i reoli a rhedeg “adnodd golff llai” yn Llangefni, sef y 9.34 acer o’r cwrs a fydd ar ôl heb ei werthu.