Bydd arweinwyr technoleg y byd yn heidio i brifddinas Cymru heddiw i gymryd rhan yn yr Ŵyl Ddigidol flynyddol.

Bydd deallusrwydd artiffisial (artificial intelligence) a rhith-realiti (virtual reality) ymhlith pynciau trafod y sesiynau eleni.

Ac mae disgwyl i enillydd y wobr Prif Fenywod Technoleg Cymru gyntaf erioed – sef 10 menyw sy’n sbarduno’r diwydiant digidol yng Nghymru – gael eu cyhoeddi.

Dyma chweched flwyddyn yr ŵyl undydd, sy’n cael ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.