Mae pum dyn wedi cael eu harestio yn dilyn ffrwgwd yn Llanelli ddoe (dydd Sul, Mai 20).

Fe fu’r digwyddiad yn ardal Heol Doc Newydd a Stryd Stanley yn y dre’ am tua 3.20yh ddoe, lle cafodd yr heddlu eu galw yn sgil adroddiadau am grŵp o ddynion yn ymladd â’i gilydd.

Fe gafodd un dyn ei anafu yn ystod y ffrwgwd, ac mae’n parhau mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ar ôl cael ei gludo yno mewn ambiwlans awyr.

Mae’r pum dyn yn parhau yn y ddalfa wrth i’r ymchwiliad barhau.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.