Mae dau o bobol yn yr ysbyty ar ôl cael eu trywanu yn ystod ffrwgwd yng Nghaerdydd.

Fe ddigwyddodd yn ardal Llanrhymni’r brifddinas am 1 o’r gloch fore heddiw.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad, a chafodd dau o bobol eu cludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae dau o bobol wedi cael eu harestio.