Mae dyn wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn Llandudno.

Fe gwympodd i’r môr ger y Gogarth, ac fe fu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Cafodd ail ddyn, oedd wedi ceisio ei achub, driniaeth am effeithiau’r oerfel.

Cafodd yr heddlu, y bad achub a Gwylwyr y Glannau eu galw am 7.36 fore heddiw.

Mae lle i gredu bod y dyn fu farw wedi cwympo oddi ar glogwyn.