Mae Heddlu Gwent yn rhybuddio’r cyhoedd i fod ar eu gwyliadwriaeth ar ôl cynnydd sylweddol mewn lladradau yng nghanol Casnewydd dros y dyddiau diwethaf.

Mae gangiau o bobol ifanc wedi bod yn bygwth aelodau o’r cyhoedd ac yn mynnu eu harian neu eu heiddo.

Mae’r heddlu wrthi’n ymchwilio i wyth digwyddiad o’r fath yn y ddinas ers dydd Mercher, ac mae pedwar o bobol yn cael eu holi yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Fe ddigwyddodd pedair o’r troseddau ger ardal cylchfan Old Green, a’r lleill gerllaw twnel cerddwyr i’r orsaf drenau, glan yr afon, Clarence Place a’r orsaf fysiau.

Mae amserau’r lladradau wedi amrywio rhwng 2yp ac 11yh.

Mae plismyn ychwanegol wedi cael eu tynnu i’r ardal i fod ar patrol ar droed, mewn iwnifform ac mewn dillad plaen.

Meddai’r Uwcharolygydd Ian Roberts, comander plismona Casnewydd a Sir Fynwy:

“Mae’r gyfres o droseddau’n achos pryder gwirioneddol, a bydd Heddlu Gwent yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid eraill i ystyried mesurau atal troseddu fel mater o frys.

“Yn y cyfamser, dw i’n gofyn i’r cyhoedd fod ar eu gwyliadwriaeth ac i unrhyw un â gwybodaeth am hyn gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 neu’n ddi-enw ar 0800 555 111.”