Fe fydd cyfle i ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd yr wythnos nesaf roi eu barn ar restr newydd o enwau lleoedd safonol Cymru.
Fe fydd y rhestr, a gaiff ei lansio gan Gomisiynydd y Gymraeg ddiwedd mis Mehefin, yn cynnig atebion syml i gwestiynau fel a oes dwy ‘n’ yn Llangrannog neu gysylltnod yn Glan-llyn.
Mae’n ffrwyth gwaith blynyddoedd o ymchwil ac ymgynghori gan Gomisiynydd y Gymraeg, sy’n gyfrifol am argymell ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymru.
“Drwy gydol y broses rydym wedi ymgynghori’n gyson â’n panel o arbenigwyr yn ogystal â defnyddwyr lleol fel y cynghorau sir,” meddai Dr Eleri James, un o Uwch Swyddogion Comisiynydd y Gymraeg ac arweinydd y prosiect.
“Ond, yn Eisteddfod yr Urdd eleni, byddem yn hynod o falch o gael cymorth gan y cystadleuwyr a’u cefnogwyr, sydd yn teithio o bob cwr o Gymru, i roi cynnig ar yr adnodd newydd a gwirio a yw enw eu tref neu eu pentref nhw arni. Mae gwybodaeth leol am enwau yn anhepgor.”
Cadeirydd y panel o arbenigwyr yw’r Athro David Thorne, sydd hefyd yn Gadeirydd ar Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. “Mae enwau yn elfen bwysig o dreftadaeth pob gwlad,” meddai.
“Maen nhw’n angori’r dreftadaeth honno, ac fel unrhyw elfen arall o dreftadaeth, maen nhw yn haeddu eu hanwylo, eu parchu a’u diogelu.
“Ein gobaith yw y bydd y rhestr hon, sydd â dros 3,000 o safleoedd arni, yn gam at warchod y cyfoeth o enwau lleoedd sydd gennym yng Nghymru.”
Cwyno am enw gwesty
Yn y cyfamser, mae ffrae wedi codi yn Eryri ar ôl i berchennog newydd gwesty yng Nghapel Curig newid ei enw o Plas Curig i ‘The Rocks’.
“Diffyg parch at y lle, ei iaith a’i hanes yw hyn,” meddai Shân Ashton, sy’n byw yn y pentref.
“Cymru yw’r fan hyn – beth sydd o’i gyda’i enw gwreiddiol neu fersiwn fyrrach fel Y Plas neu Creigiau!” meddai mewn neges ar Facebook sydd wedi denu llawer o ymatebion, gan gynnwys un yn disgrifio’r sefyllfa fel ‘hil-laddiad diwylliannol’.
Roedd un arall yn tynnu sylw at le a welodd yn ddiweddar gerllaw Gwersyll yr Urdd Llangrannog o’r enw Pigeonswood, gyda’r enw gwreiddiol, Rhydygolomen, yn fach oddi tano.
Mae disgwyl y bydd rhai o swyddogion byd busnes Mentrau Iaith Cymru yn trafod y sefyllfa gyda pherchnogion Plas Curig yr wythnos nesaf.