Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn blwmp ac yn blaen eu bod yn gwrthwynebu ffracio.

Daw hyn mewn datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

A daw’r datganiad fel ymateb i gynnig Llywodraeth Gwledydd Prydain i lacio’r rheolau cynllunio yn Lloegr ar ffracio.

“Mae datganiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch datblygu nwy siâl yn ymwneud â Lloegr yn unig,” meddai Lesley Griffiths.

“Mae safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch y mater yn wahanol. Rydyn ni’n gwrthwynebu ffracio.”

Trwyddedau

O fis Hydref 2018, bydd cyfrifoldeb am roi trwyddedau ar gyfer codi petrolewm ar y tir yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru.

Ac mi fydd hyn yn ei dro, meddai Lesley Griffiths, yn rhoi cyfle i’r corff “ystyried ffordd wahanol o wneud pethau”.