Mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud bod y briodas frenhinol yfory yn “gyfle i gydnabod pwysigrwydd y cysylltiad sydd gan Gymru â’r teulu brenhinol”.

Meddai Alun Cairns: “Mae gan aur Cymru hanes hir ac arbennig yn llawer o flychau gemwaith y teulu brenhinol, y Bragdy Felinfoel lawr y ffordd yn Llanelli yw ffefryn Tywysog Cymru ac wrth gwrs mae Corgwn Sir Benfro wedi byw ym Mhalas Buckingham ers degawdau!”

Roedd Ysgrifennydd Cymru yn traddodi araith i aelodau’r Ceidwadwyr Cymreig yn eu cynhadledd yn Ffos Las, Sir Gaerfyrddin, ac yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at gael croesi Pont Tywysog Cymru.

“Dw i’n Gymro balch, yn unoliaethwr balch ac yn frenhinwr balch. A dw i’n edrych ymlaen at groesi pont Tywysog Cymru, heb dollau, yn ddiweddarach y flwyddyn hon.”

Angen estyn allan wedi Brexit

Defnyddiodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei araith hefyd i bwysleisio’r angen i estyn allan a masnachu gyda gwledydd rhyngwladol y tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit.

“Rhaid i ni gofio nad oedd Brexit erioed yn bleidlais i droi cefn ar y byd – mae hyn yn gyfle i ddilyn yr agenda ryngwladol honno.

“I gryfhau ein perthynas gydag hen ffrindiau ac estyn allan i gynghreiriaid newydd, ynghyd â pharhau’r bartneriaeth ddofn ac arbennig honno gyda’r cenhedloedd Ewropeaidd.”