Mae pobol anabl yn annhebygol o herio toriadau i’w budd-daliadau, gan fod y broses o apelio yn “rhy drawmatig”.

Dyna yw pryder Miranda Evans, Cyfarwyddwr Polisi a Rhaglenni grŵp Anabledd Cymru, a hynny er i ffigyrau ddangos y bu 8,000 apêl lwyddiannus gan bobl anabl yng Nghymru’r llynedd.

Mae Miranda Evans yn croesawu’r ffaith bod miloedd wedi medru herio toriadau i’w ‘Taliadau Annibyniaeth Personol’, ond yn gofidio am unigolion sydd heb yr hyder i wneud hynny.

“Mae’r holl broses [apelio] yn creu pryder i lawer o bobol,” meddai wrth golwg360. “Mae llawer o bobol yn gwrthod apelio oherwydd eu bod yn achosi cymaint o straen.

“Dyw’r ffigyrau ddim yn dangos y darlun llawn. Mae’n bosib bod yna fwy o bobol a allai fod wedi apelio, a gwrthdroi penderfyniadau.”

Mae’r Cyfarwyddwr Polisi yn ategu bod angen rhagor o gymorth ar bobol anabl fel eu bod yn medru apelio, ac yn eu hannog i chwilio am gyngor.

Asesiadau

Pryder arall sydd gan Miranda Evans yw’r broses asesu ar gyfer y taliadau – proses “fiwrocrataidd” sy’n digwydd yn “rhy gyson”, meddai.

Dyw asesu pobol â chyflyrau parhaol – syndrom Down ac awtistiaeth er enghraifft – ddim yn gwneud synnwyr, meddai, gan nad yw’r cyflyrau yma’n gwaethygu nac yn gwella tros amser.

“I bobol sydd gyda chyflwr hir dymor ni ddylai bod angen iddyn nhw gael asesiadau tro ar ôl tro,” meddai.

“Oherwydd, dyw eu cyflwr ddim yn mynd i newid. Cyflyrau cydol oes yw’r rhain. Ac mae’n asesiadau yn rhoi straen ar bobol heb fod angen.”