Mae un o’r olynwyr posib i arweinydd presennol y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi cadarnhau wrth golwg360 bod ganddo ddiddordeb yn y swydd.

Mae si ar led bod rhai o fewn y blaid Dorïaidd yng Nghymru yn ceisio perswadio Paul Davies, AC Preseli Penfro, i lansio ymgyrch am yr arweinyddiaeth.

Ac yng nghynhadledd y blaid ar gae rasio Ffos Las yn Sir Gaerfyrddin heddiw, dywedodd y byddai yn ceisio am y swydd, pe bai yn dod yn wag.

“Mae Andrew wedi gwneud hi’n eitha’ clir tra bod cefnogaeth gydag e’, mae e’n mynd i barhau i fod yn arweinydd y grŵp ac mae hynna yn hollol glir,” meddai Paul Davies.

“Mae cefnogaeth gydag Andrew, wrth gwrs bod e’.

“Dyw e’ ddim yn gyfrinach, os oedd y swydd yn wag byddai diddordeb gyda fi mewn gwneud y swydd hynny. Ond wrth gwrs dyw’r swydd ddim yn wag ar hyn o bryd.”

Andrew RT yn gobeithio aros tan yr etholiad nesaf

Mewn cyfweliad â chylchgrawn Golwg yr wythnos hon, mae Andrew RT Davies yn dweud ei fod am barhau yn y rôl, os oes ganddo gefnogaeth, tan o leiaf 2021, pan fydd etholiadau nesaf y Cynulliad.

Byddai’n “wirion” gwneud sylw am ei ddyfodol wedi hynny, meddai.

Cafodd yr arweinydd ei ethol i’r swydd yn 2011.