Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad yn dweud bod ganddyn nhw “amheuon difrifol” am gynllun newydd ar gyfer rhaglen sy’n rhoi cymorth i’r bobol fwyaf bregus mewn cymdeithas yng Nghymru.

Mae Rhaglen Cefnogi Pobl, sydd werth tua £125m, wedi bodoli ers 14 mlynedd, a’i nod yw helpu pobol ddigartref a phobol sy’n agored i niwed i fyw mor annibynnol â phosibl.

Mae hefyd yn rhoi cymorth iddyn nhw cyn gynted ag y bo modd, a hynny er mwyn lleihau’r galw ar wasanaethau cyhoeddus, megis y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae tua 57,000 o bobol yn elwa o’r rhaglen bob blwyddyn, gyda 37,000 o’r rheiny’n bobol hŷn.

Problemau’r rhaglen

 Ond mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Cynulliad yn dweud bod bwriad Llywodraeth Cymru i gyfuno’r rhaglen â chynlluniau eraill i greu ‘Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal Problemau a Chefnogaeth’ yn ddirgelwch iddyn nhw.

Wrth ystyried bod yna brinder gwybodaeth am y cynllun grant newydd, a’r ffordd y mae’n cael ei ariannu, mae’r pwyllgor yn teimlo bod pethau’n cael eu “celu” oddi wrthyn nhw.

Maen nhw hefyd yn dweud nad oedden nhw’n gallu darganfod pa mor llwyddiannus y mae’r Rhaglen Cefnogi Pobl wedi bod dros y blynyddoedd, na’r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddysgu ohoni er mwyn gwneud gwelliannau.

“Diffygion mawr”

 Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, mae yna “ddiffygion mawr” yn parhau gyda’r ffordd y mae Rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei reoli.

“Roedd y cynnydd wrth fynd i’r afael â materion a godwyd gan adolygiadau blaenorol, er enghraifft, mewn perthynas â’r fformiwla ariannu a monitro effaith y Rhaglen, wedi bod yn araf,” meddai’r Aelod Cynulliad, Nick Ramsay.

“Er ein bod yn cydnabod y gallai fod lle i integreiddio rhaglenni grant yn well er mwyn sicrhau gwell canlyniadau, mae gennym amheuon difrifol am y ffordd y datblygwyd ac y cyhoeddwyd y cynigion ar gyfer y grant integredig newydd ym manylion cynigion cyllideb Llywodraeth Cymru.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i ddangos y sail dystiolaeth ar gyfer ei gynigion a phrofi’r trefniadau drwy werthusiad cadarn o brosiectau peilot ariannu hyblyg sydd bellach ar y gweill, cyn penderfynu ar gwmpas unrhyw grant newydd a’r amserlen ar gyfer ei weithredu.”