Mae aelod o Gymdeithas Sifil Caerdydd wedi mynegi pryderon am gyflwr cerflun o sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS).

Mae’r cerflun o Aneurin Bevan ar dop Heol y Frenhines y brifddinas yn aml wedi’i orchuddio â baw adar.

 chynghorau’n wynebu cyni ariannol, mae Cadeirydd y gymdeithas, Nerys Lloyd-Pierce, yn cydnabod eu bod “mewn sefyllfa anodd”. Ond, mae hefyd yn pryderu bod materion – gan gynnwys gofal cerfluniau o ffigyrau nodedig – bellach yn cael eu “hesgeuluso”.

At hynny, mae eleni’n 70 mlynedd ers sefydlu’r NHS, ac mae disgwyl tipyn o hel atgofion pan ddaw hi’n Orffennaf 5, yr union ddyddiad.

“Amharchus”

“Dyw e ddim yn edrych yn dda iawn, pan mae ymwelwyr yn dod,” meddai wrth golwg360. “A does yna ddim gwaith cynnal a chadw. Mae peidio â chadw’r cerflun yn lân, braidd yn amharchus.

“Ond dw i hefyd yn deall bod pethau’n galed i’r Cyngor o ran cyllid. Felly, mae popeth wedi dioddef yn sgil hynny… Mae eu cyllideb mor dynn, dyw pethau ddim mor hawdd ag yr oedden nhw.

“Er hynny, buaswn i ddim yn beio’r adar! Ein cyfrifoldeb ni yw glanhau’r baw.”

Toriadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am rwystro awdurdodau lleol Cymru rhag “gwireddu’u cyfrifoldebau”, meddai Nerys Lloyd-Pierce.