Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi bwrdd o gynghorwyr i helpu Aled Roberts gyda’r dasg o ehangu addysg Gymraeg mewn ysgolion.

Mae’r bwrdd yn cynnwys pobol o feysydd gwahanol ym maes addysg, yn ogystal â chynllunwyr ieithyddol er mwyn gweithredu ar argymhellion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg cynghorau sir.

Dyma’r pedwar sydd wedi’u penodi i’r panel:

  • Meirion Prys Jones, Cyn- Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg;
  • Bethan Morris Jones, Pennaeth ysgol Gynradd yng Ngwynedd;
  • Sarah Mutch, Rheolwr Blynyddoedd Cynnar yng Nghyngor Bwrdeistref Caerffili;
  • Dylan Foster Evans, Darlithydd/Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Newid hyd cynlluniau Cymraeg mewn Addysg

Un o brif dasgau’r bwrdd fydd adolygu’r ddeddfwriaeth sy’n pennu ar sgôp y cynlluniau hynny, ac yn ôl Aled Roberts, gallai hynny olygu newid y ddeddf yn y pen draw.

Mae’r cyn-Aelod Cynulliad a chyn-arweinydd Cyngor Wrecsam yn siarad â golwg360, wedi cyfarfod cyntaf y bwrdd yng Nghaerdydd ddydd Iau (Mai 17).

Mae bellach gan y panel ddau neu dri mis i benderfynu ar reoliadau i’r ddeddf, gyda Llywodraeth Cymru yn gobeithio eu cyflwyno i’r Cynulliad o fewn 18 mis.

“Hwyrach y byddwn ni’n dweud yn yr hirdymor, rydyn ni’n meddwl y dylai (Llywodraeth Cymru) newid y ddeddf yma er mwyn creu lle i adlewyrchu uchelgais 2050,” meddai Aled Roberts.

Yn ymarferol, mae hynny’n golygu newid cynnwys a hyd y cynlluniau Cymraeg mewn addysg, meddai. Ar hyn o bryd, mae’r Llywodraeth yn adolygu cynlluniau pob cyngor bob tair blynedd.

“Dw i’n meddwl bod y rhan fwyaf ohonyn ni o’r farn bod hi’n anodd iawn gweld cynllun tair blynedd fel cynllun strategol. Felly ymestyn cyfnod y cynlluniau.”

Sêl bendith 

Ond mae’n pwysleisio nad oherwydd fod cynghorau yn ‘anfodlon’ i newid eu cynlluniau Cymraeg mewn addysg, y mae hyn yn digwydd. Mae gan 15 allan o 20 o gynghorau sir eisoes sêl bendith y Llywodraeth ar eu cynlluniau, meddai.

“Mae’r Llywodraeth yn fwy agored ynglŷn â’u dyheadau nhw ar gyfer addysg Gymraeg ac mae yna barodrwydd ymlith y cynghorau os ti’n cymharu y cynlluniau gwreiddiol blwyddyn yn ôl efo beth sydd wedi cael ei dderbyn mewn 15 achos.

“Mae trafodaethau yn parhau efo’r saith cyngor sydd ar ôl, y disgwyl ydy yw bod nhw yn gyrru eu cynlluniau diwygiedig i mewn erbyn diwedd y mis yma.

“Ddim mater o ran unrhyw broblem efo’r cyngor ydi o, ond os oes gen ti gynllun tair blynedd, y gwir ydi bod hi’n cymryd llawer iawn mwy o amser i weithredu’r cynllun.

“… Os ti’n cael cynllun tair blynedd… bach iawn o newid ti’n mynd i gael o fewn y tair blynedd yna, mae’n rhaid i ni edrych ar gyfnod hirrach o fewn unrhyw gynllun lle mae’n bosib i ad-drefnu ysgolion ar sail ehangach.”

Dywed mai cyfnod o bump i ddeng mlynedd fuasai’n rhesymol i ddisgwyl i gynlluniau’r Cymraeg mewn addysg barhau, ond nad oedd y panel wedi dod i benderfyniad eto.