Fe ddaeth cadarnhad bod aelodau grwp UKIP yn y Cynulliad wedi cael gwared â Neil Hamilton fel arweinydd, ac wedi dewis yr Aelod Rhanbarthol, Caroline Jones, i gymryd ei le.

Roedd sïon yn dew y gallai’r grwp ymrannu’n ddwy garfan – Caroline Jones, David Rowlands a Michelle Brown yn y naill, Neil Hamilton a Gareth Bennett ar y llall.

“Rydym yn gobeithio bod yn dîm cynhwysol, ac mae croeso i bob aelod o’r grŵp aros,” meddai Caroline Jones, Aelod Cynulliad de orllewin Cymru, mewn datganiad.

“Bydd y Grŵp yn parhau i ganolbwyntio ar faterion sy’n effeithio ar Cymru. Mae UKIP yn gobeithio ehangu ein haelodaeth yng Nghymru, a chefnogi’r bobol yng Nghymru sy’n ein hethol ni.”

Pam?

Mae rhesymau’r blaid am ddisodli Neil Hamilton yn aneglur, ond mae adroddiadau’n awgrymu bod sylwadau diweddar gan y ffigwr wedi corddi aelodau’r blaid.

Roedd Neil Hamilton wedi bod yn arwain grwp UKIP yn y Cynulliad er 2016.