Mae sïon yn dew ym Mae Caerdydd bod rhai o Aelodau Cynulliad plaid UKIP wedi torri’n rhydd o’r grwp yn y Cynulliad ac yn bwriadu sefydlu eu grwp eu hunain.

Mae golwg360 yn deall y gallaui’r aelodau Caroline Jones, David Rowlands a Michelle Brown fynd eu ffordd eu hunain, gan adael arweinydd y grwp, Neil Hamilton a’r unig Aelod Cynulliad arall, Gareth Bennett, ar ôl.

Yn ôl rheolau’r Cynulliad, mae angen o leiaf dri aelod ar bob grŵp ac felly byddai Neil Hamilton a Gareth Bennett yn methu parhau i fod yn rhan o grŵp swyddogol dan y drefn newydd.

Ond mae hefyd yn codi cwestiwn ynglyn â pha grŵp fydd yn cynrychioli UKIP yn y Cynulliad.

Dyw hi ddim yn glir eto os bydd Mandy Jones, sy’n Aelod Cynulliad UKIP na chafodd groeso i ymuno â’r grŵp dan arweinyddiaeth Neil Hamilton, yn ymuno â’r garfan newydd. Fe fyddai hynny’n rhoi pedwar aelod iddyn nhw.

“Cael digon” ar sylwadau Neil Hamilton

Mae’r rhesymau am dorri’n rhydd yn aneglur ar hyn o bryd, ond y si ydi fod rhai wedi “cael digon” ar sylwadau Neil Hamilton wrth drafod polisi urddas a pharch newydd y Cynulliad yn y siambr ddoe (dydd Mercher, Mai 16).

Roedd Neil Hamilton wedi ymatal yn y bleidlais ar fabwysiadu polisi newydd, gan ddweud ei fod yn mynd yn rhy bell ac awgrymu bod gan unrhyw Aelod Cynulliad yr hawl i ddweud beth bynnag fynnan nhw yn breifat.

Mae’n debyg bod yr Aelodau Cynulliad wedi dweud wrtho mewn cyfarfod neithiwr (nos Fercher) nad oedden nhw am fod yn rhan o’r un grŵp ag ef rhagor.