Mae pobol wedi bod yn ymateb yn chwyrn i arddangosfa yn ffenest siop elusen yn Aberystwyth sydd wedi’i haddurno â baneri Jac yr Undeb cyn y briodas frenhinol.

Mae siop lyfrau Oxfam yn y dref wedi cythruddo pobol wrth roi llyfrau am y teulu brenhinol yn ffenest ei siop a llun o’r Tywysog Harry a Meghan Markle fydd yn priodi dydd Sadwrn.

Yn ôl y bardd a’r academydd, Gruffudd Antur, a gyhoeddodd lun o ffenest y siop  ar wefan gymdeithasol Twitter neithiwr (nos Fercher, Mai 16), mae’r penderfyniad wedi “gwneud niwed diangen” i enw Oxfam.

“Yn syml iawn, mae’n siop sy’n dibynnu’n llwyr ar ewyllys da gan brynwyr ond yn bwysicach gan y bobol sy’n rhoi llyfrau iddyn nhw,” meddai Gruffudd Antur wrth golwg360.

“… Mae Oxfam i fod yn fudiad radical sy’n dibynnu ar ewyllys da, yn enwedig mewn lle fel Aberystwyth, sy’n enwog fel yr unig ymweliad erioed lle roedd y Frenhines wedi gorfod ei ganslo.

“Mae o jyst yn amhriodol ac yn ddiangen.”

“Amharchu traddodiad cwmni a thraddodiad lleol”

Tra’n siarad â golwg360, roedd y bardd ar y ffordd i Aberystwyth ac yn ystyried mynd i’r siop i siarad â’r gweithwyr a’r gwirfoddolwyr am yr arddangosfa yn dathlu’r briodas frenhinol.

“… Mae’n bosib wna i alw mewn i ofyn iddyn nhw’n garedig i feddwl am eu cwsmeriaid, mewn siop sy’n dibynnu’n llwyr ar roddion gan bobol leol, mae’r rhan fwyaf o bobol sy’n rhoi llyfrau yn Aber, maen nhw’n weriniaethwyr rhonc.

“Mae yna rywbeth ychydig bach yn wrthun mewn mynd i siop sy’n amlwg yn amharchu traddodiad y cwmni a thraddodiad lleol hefyd,” meddai pan ofynnwyd iddo a fyddai’n gwario arian yn y siop eto.

“Mae o jyst yn gwneud niwed di-angen i’r siop.”

Doedd rheolwr y siop ddim ar gael i siarad â golwg360 ond yn ôl gwirfoddolwr, doedden nhw ddim wedi derbyn unrhyw gwynion gan gwsmeriaid am yr arddangosfa eto.