Mae dau fachgen wedi cael eu harestio yn sgil tân mewn hen glwb cymdeithasol yn Y Barri ddechrau’r wythnos.

Fe gafodd y Gwasanaeth Tân eu galw i gyn glwb Ceidwadol Doc y Barri ar Ffordd yr Orsaf toc wedi 8yh nos Fawrth (Mai 15).

Fe fu tua 40 o ddiffoddwyr yn ymladd y fflamau yn ystod y nos, a bu raid i un teulu adael eu cartref yn ystod y digwyddiad.

Ers hynny, mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod dau fachgen, 13oed ac 14 oed, wedi cael eu dwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o gynnau’r tân yn fwriadol, gan achosi peryg i fywyd.

Mi fydd y ddau yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd yn ystod y bore yma (dydd Iau, Mai 17).