Mae panel disgyblu wedi penderfynu torri gwaharddiad Neil McEvoy o Blaid Cymru o 18 mis i 12 mis, am fod y dyfarniad gwreiddiol wedi bod “braidd yn llym”.

Roedd yr Aelod Cynulliad wedi cael ei wahardd yn dilyn cwynion am ei ymddygiad yng nghynhadledd y Blaid y llynedd.

Roedd Prif Weithredwr Plaid Cymru, Gareth Clubb a’r cadeirydd, Alun Ffred Jones, wedi cwyno yn ei erbyn.

Camau cyfreithiol?

Bydd Neil McEvoy yn gallu ail-ymgeisio i fod yn aelod o’r blaid wedi 18 Mawrth 2019, ond mae wedi dweud yn gyhoeddus am y tro cyntaf heddiw ei fod yn ystyried camau cyfreithiol yn erbyn y penderfyniad.

Gallai hynny arwain at adolygiad barnwrol costus, ac mae golwg360 yn deall bod y seicolegydd yng Nghaerdydd a Llundain, Dr Dilys Davies, wedi addo cefnogaeth i fynd â’r mater i’r llysoedd.

Ond mae Neil McEvoy wedi galw’r sibrydion yn “nonsens” yn y gorffennol.

Heddiw, dywed nad oes ganddo opsiwn ond trafod mynd â’r achos i’r llys â’i dîm cyfreithiol:

“Mae egwyddorion craidd o gyfiawnder naturiol, dilyn proses cywir a dyletswydd o ofal wedi cael eu hanwybyddu’n llwy gan arweinyddiaeth Plaid Cymru,” meddai.

“Dw i am i’r aelodau wybod fy mod i eisiau’r gorau i Blaid Cymru a dw i eisiau’r gorau i Gymru. Gall y Blaid ddim parhau i drin ei haelodau ei hun fel hun.”

Ymateb Plaid Cymru 

“Mae’r Panel Gwrandawiad wedi penderfynu cynnal y cwynion yn erbyn Neil McEvoy,” meddai llefarydd o’r swyddfa ganolog. “Mae wedi ei wahardd o’r blaid am 12 mis. Mae penderfyniad y Panel yn derfynol.”