Prin fod yr ymdrechion i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol gan ddynion yn erbyn merched wedi crafu’r wyneb, yn ôl yr awdur sgriptiau a chynhyrchydd o Gymru, Russell T Davies.

Mewn cyfweliad â’r Daily Telegraph, dywed cyn-awdur Doctor Who nad yw mudiadau fel #MeToo wedi dechrau trafod trais gan ddynion.

Ac mae’n wfftio’r awgrym fod yr ymgyrch #MeToo yn “drobwynt” yn y sefyllfa.

“Prin ein bod ni wedi crafu’r wyneb o safbwynt yr hyn y mae dynion yn ei wneud yn y gwaith,” meddai. “Ry’n ni ond wedi trafod sylw rhywiol diangen – dydyn ni ddim wedi sôn am ddicter a thrais.”

Daw ei sylwadau ar drothwy ei ddrama newydd i’r BBC, A Very English Scandal, sy’n adrodd hanes y cyn-Aelod Seneddol Rhyddfrydol, Jeremy Thorpe ac sy’n serennu Hugh Grant fel y prif gymeriad.

Perthynas dynion hoyw

Yn y ddrama, mae ei gymeriad mewn perthynas â dyn ifanc, Norman Scott, sy’n cael ei chwarae gan Ben Whishaw. Mae lle i gredu nad yw’n fodlon ar y ddrama newydd, gan honni ei bod yn ei bortreadu fel “dyn hoyw bach mursennaidd”.

Mae’n seiliedig ar lyfr John Preston sy’n adrodd hanes Jeremy Thorpe yn wynebu achos llys, wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio’i bartner. Fe gollodd ei sedd yn ystod yr helynt ac er i lys ei gael yn ddieuog yn y pen draw, fe ddaeth ei yrfa wleidyddol i ben.

Bu farw’n 85 oed yn 2014 ar ôl salwch hir.

Bydd pennod gynta’r ddrama’n cael ei darlledu nos Sul ar BBC 1 am 9 o’r gloch.