Mae trigolion ardal Caerffili wedi cael eu cynghori i fod yn wyliadwrus, yn sgil adroddiadau am ddyn sydd wedi bod yn dinoethi mewn mannau cyhoeddus.

Hyd yma, mae’r heddlu wedi clywed am dri achos ym Mhontllanfraith a Threcelyn, ac mae’n debyg y digwyddodd pob un o’r rhain ym mhresenoldeb plant.

Digwyddodd y drosedd gyntaf ar Fai 3, a’r ddau arall ar Fai 13 yn Nhrecelyn.

Dyn tenau gwyn, rhwng 30 a 40 oed, ac sydd rhwng 5’ 6” a 5’ 8” o daldra; oedd yn gyfrifol am bob un o’r achosion, yn ôl Heddlu Gwent.

Ac mae’n debyg yr oedd yn gwisgo het pêl fas du, crys-t du, crys chwys du wedi ei glymu o gwmpas ei ganol, siorts du ac esgidiau rhedeg du.

Bellach mae’r heddlu yn ymchwilio i’r digwyddiadau hyn ac wedi cynyddu patrolau yn yr ardal.