Mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad, ar ôl i ddyn farw ar stryd yng Nghaerdydd neithiwr.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Richmond yn ardal y Rhath am tua 10:20 neithiwr (nos Llun, Mai 14), ar ôl i aelod o’r cyhoedd ddarganfod y dyn 48 oed.
Fe fu farw’r dyn yn y fan a’r lle, er iddo dderbyn triniaeth feddygol.
Yn ôl Heddlu De Cymru, mae ei deulu wedi’u hysbysu, ac yn derbyn cymorth gan arbenigwyr.
Maen nhw hefyd yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.