Fe fydd mesurau iechyd a diogelwch newydd yn cael eu cyflwyno yn ardal Llanfair-ym-Muallt adeg y Sioe Frenhinol eleni.

Daw hyn yn sgil adroddiad gan grŵp gweithredu diogelwch a gafodd ei sefydlu ar ôl i ffermwr ifanc o Bowys farw yn ystod yr ŵyl y llynedd.

Fe aeth James Corfield, 19 oed, ar goll ar ddiwrnod cyntaf y Sioe Frenhinol yr haf diwethaf, ac fe gafodd ei gorff ei ddarganfod gan ddeifwyr yn afon Gwy bum niwrnod yn ddiweddarach.

Ers y digwyddiad, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd â sefydliadau lleol, gan gynnwys y Gwasanaeth Tân ac Achub, Heddlu Dyfed Powys, Cyngor Sir Powys a Chyngor Tref Llanfair-ym-Muallt.

Y mesurau

Erbyn hyn, mae argymhellion y grŵp gweithredu diogelwch wedi cael eu derbyn, ac fe fyddan nhw’n cael eu gweithredu yn ystod wythnos y Sioe ddiwedd mis Gorffennaf.

Mae’r mesurau’n cynnwys:

  • Creu ‘Llwybr Gwyrdd’ o dref Llanfair-ym-Muallt i faes y Sioe, Fferm Penmaenau a’r Pentref Ieuenctid
  • Canolfan les newydd yn y dre ar safle’r hen Ganolfan Groeso
  • Bugeiliaid stryd yn gweithio yn y dref cyn ac yn ystod pedwar diwrnod y sioe
  • Gosod ffens ddiogelwch newydd rhwng ardal y Gro ac afon Gwy.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys trefniadau traffig a thacsis, mwy o doiledau cyhoeddus a chamerâu CCTV yn y dre.

Sicrhau diogelwch

Yn ôl Arweinydd Cyngor Sir Powys, Rosemarie Harris, mae’r Sioe Frenhinol yn “achlysur pwysig” i Bowys a Chymru gyfan, a bod angen gwneud “popeth yn ein gallu” i reoli diogelwch.

“Yn dilyn digwyddiadau trasig y llynedd, mae’n bwysig i ni gydweithio a rhannu ein profiadau a’n gwybodaeth i wella lles a diogelwch pobol sy’n dod i’r ardal dros gyfnod y Sioe,” meddai.

“Mae’r adolygiad wedi cyrraedd carreg filltir bwysig gyda chamau sylweddol a fydd yn sicrhau bod y digwyddiad a’r gweithgareddau o gwmpas hyd yn oed yn fwy diogel.

“Ond, nid dyma ddiwedd y gwaith. Byddwn yn parhau i fonitro ac adolygu trefniadau lles a diogelwch er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r diben yn y dyfodol.”

Mi fydd y Sioe Frenhinol yn cael ei chynnal eleni rhwng Gorffennaf 23 a Gorffennaf 26.