Mae cwmni coffi o Sir Gaerfyrddin “wrth eu boddau” o fod wedi cael eu cynnwys ar restr o ganolfannau diwylliant coffi’r byd.

Cafodd Coaltown Coffee ei sefydlu yn Rhydaman yn 2014, gyda’r nod o fagu cysylltiadau ag ystadau coffi bychain, ac o rostio cynnyrch sydd â “stori”.

Wedi blynyddoedd o dyfu ac ehangu yng ngorllewin Cymru mae’r busnes bellach wedi’i gynnwys ymhlith pymtheg arall o wledydd Prydain, yn llyfr Lonely Planet’s Global Coffee Tour.

‘Boncyrs’

“Mae pethau wedi bod yn boncyrs,” meddai perchennog y cwmni, Scott James, wrth golwg360. “Dim ond ers pedair blynedd yr ydyn ni wrthi.

“Ac mae cael ein cynnwys yn y llyfr hwn, ochr yn ochr â rhostwyr sy’n adnabyddus dros y byd, yn anhygoel. R’yn ni’n falch dros ben.

Mae gan y cwmni gaffi a safle rhostio yn Rhydaman, ac mae’n debyg bod ganddyn nhw gynlluniau ar y gweill i agor safle arall ac academi rostio.

“Mae gorllewin Cymru yn baradwys ar gyfer bwyd indie ar hyn o bryd,” meddai Scott James.