Mae ymgyrchwyr wedi galw am atal Heddlu De Cymru rhag defnyddio technoleg arbrofol newydd ar ôl i adroddiad ddangos ei fod yn anghywir 91% o’r amser.

Mae’r offer digidol i adnabod wynebau mewn tyrfa wedi bod yn cael ei brofi yn y De a gyda Heddlu’r Met yn Llundain.

Yno, mae’r ffigurau hyd yn oed yn waeth, gyda’r dechnoleg yn anghywir 98 gwaith ym mhob cant

‘Pobol ddiniwed yn cael eu poeni’

Yn awr mae’r mudiad hawliau Big Brother Watch yn dweud bod rhaid rhoi’r gorau i ddefnyddio’r dechnoleg.

Maen nhw’n dweud bod lluniau mwy na 2,500 o bobol yn ne Cymru wedi eu tynnu ond bod 2451 yn anghywir.

Mae hynny’n golygu, medden nhw, bod pobol ddiniwed yn gorfod profi pwy ydyn nhw ac maen nhw’n cyhuddo’r heddlu o gadw’r lluniau.

‘Pryder mawr’

“Mae’n fater o bryder mawr ac yn annemocrataidd fod yr heddlu’n defnyddio technoleg sydd bron yn gwbl anghywir ac sy’n fygythiad mawr i’n rhyddid ni,” meddai Cyfarwyddwr Big Brother Watch, Silkie Carlo.

Roedd pobol ddiniwed mewn peryg o gael eu hatal neu hyd yn oed eu harestio, meddai, ac roedd peryg o fwy o annhegwch at bobol o leiafrifoedd ethnig.

“Mae hyn wedi gwastraffu miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus ac mae’r gost yn rhy uchel o ran hawliau sifil. Rhaid rhoi’r gorau iddo.”

Arestio 15

O’r 234 llun oedd yn gywir, roedd yr heddlu wedi gweithredu mewn 110 o achosion ac wedi arestio 15.

Roedd Heddlu De Cymru wedi bod yn defnyddio’r dechnoleg ar dorfeydd adeg gêmau rygbi rhyngwladol a digwyddiadau mawr eraill, fel cyngherddau roc a rownd derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop y llynedd.

Yn ôl Heddlu’r Met, dyw’r lluniau ddim yn cael eu defnyddio heb dystiolaeth arall.

Roedd yr adroddiad wedi’i greu yn sgil atebion dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.