Mae perthnasau cleifion uned iechyd meddwl Tawel Fan yn parhau’n anhapus ar ôl cyfarfod rhai o benaethiaid Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru.

Roedden nhw’n cyhuddo’r swyddogion o osgoi ateb cwestiynau manwl ar ôl i ymchwiliad swyddogol ddweud bod safonau gofal ar y ward “ar y cyfan” yn dda.

Mae hynny’n hollol groes i adroddiad arall fwy na dwy flynedd yn ôl – fe ddywedodd hwnnw bod y sefydliad cyfan yn euog o gam-drin cleifion demensia ac roedd adroddiadau am achosion o gleifion mewn amgylchiadau dychrynllyd.

Yn awr, mae rhai o’r teuluoedd yn cefnogi galwad y Ceidwadwyr yng Nghymru am ymchwiliad pob plaid yn y Cynulliad.

Cyhuddo swyddogion o wrthod ateb

Ar ddiwedd y cyfarfod dwy awr a hanner neithiwr, roedden nhw’n parhau i feirniadu, gan ddweud bod swyddogion wedi gwrthod ateb cwestiynau am achosion unigol.

Maen nhw hefyd wedi gofyn am ymddiheuriad swyddogol.

Mae pedair blynedd a hanner ers pan gaeodd ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd Bodelwyddan.

Yn ôl Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, Gary Doherty, fe fyddan nhw’n dechrau edrych ar adroddiadau unigol ac yn llunio cynllun gweithredu i ymateb i’r 15 argymhelliad yn yr adroddiad.