Mae canolfan Tramshed yng Nghaerdydd wedi postio neges newydd ar eu cyfrif Twitter yn hysbysebu gemau tîm pêl-droed Lloegr yng Nghwpan y Byd.

Daw hyn ddiwrnod yn unig wedi iddyn nhw ddileu neges debyg, a wnaeth ennyn ymateb chwyrn gan gefnogwyr Cymru.

Bydd y ganolfan yn dangos gemau Lloegr ar sgrin fawr, ac yn cyflwyno cynigion arbennig.

Yn ogystal, mi fydd anrhegion arbennig, yn cael eu rhoi – Lloegr fydd thema’r anrhegion yma.

“R’yn ni’n gwybod bod Cymru ddim yn chwarae yng Nghwpan y Byd eleni, ond byddwn o hyd yn dangos Cwpan y Byd …” meddai’r neges ddiweddaraf.