Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o ddefnyddio adnoddau cyhoeddus i “gamarwain” y cyhoedd er mwyn “cuddio cywilydd eu plaid eu hunain”.

Daw hyn yn sgil cyhoeddi llythyron rhwng Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, ynglŷn ag ailenwi’r ail bont dros afon Hafren yn ‘Bont Tywysog Cymru’.

Mae’r llythyron yn dangos fod Carwyn Jones yn “croesawu’r syniad”.

Maen nhw wedi cael eu datgelu yn sgil cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru heddiw (dydd Llun, Mai 4).

Daw hyn fwy na mis ar ôl i Alun Cairns gyhoeddi y bydd y bont yn cael ei hailenwi yn deyrnged i’r Tywysog Charles am ei “[dd]egawdau o wasanaeth ffyddlon i Gymru”.

Y llythyron

Mewn llythyr dyddiedig Rhagfyr 6, fe ddywed Carwyn Jones ei fod yn “croesawu’r syniad” o ailenwi un o bontydd afon Hafren ar ôl mab hynaf y Frenhines.

“Bydd Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cynnig, ac rwy’n barod i fod yn rhan o’r seremoni ailenwi ffurfiol,” meddai.

Roedd hyn ar ôl i Alun Cairns anfon llythyr at Brif Weinidog Cymru ar Fedi 25 y llynedd yn dweud mai’r “farn ers sbel” yw nad yw’r enw presennol yn un “addas ar gyfer y brif fynedfa i Gymru o dde Cymru”.

“Cuddio cywilydd eu plaid eu hunain”

Wrth ymateb i hyn, mae’r Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price, yn dweud bod y llythyron yn enghraifft o ymddygiad sydd “mor gyffredin” gan Lywodraeth Lafur Cymru erbyn hyn.

“Unwaith yn rhagor mae Llywodraeth Cymru dan arweiniad y Blaid Lafur wedi defnyddio adnoddau cyhoeddus i gamarwain y cyhoedd er mwyn cuddio cywilydd eu plaid eu hunain,” meddai.

“Mae’r math yma o ymddygiad mor gyffredin gan Lywodraeth Llafur Cymru bellach, mae perygl ein bod ni’n troi’n ddiymadferth.

“Ond dros ddemocratiaeth a thros greu diwylliant o dryloywder ac atebolrwydd yng Nghymru, mae’n rhaid herio’r math yma o lywodraethu.”

Nid oedd Llywodraeth Cymru am roi ymateb i sylwadau Adam Price.