Mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru wedi rhybuddio pobol i beidio â defnyddio eu hewyllys i roi gwybod am eu penderfyniad i roi organau gan y gallai hynny fod yn rhy hwyr .

Yn ôl Vaughan Gething gall rhoi gwybod am benderfyniad mewn ewyllys, heb gofrestru’r penderfyniad hwnnw ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau neu siarad â theulu a ffrindiau, olygu y bydd yn rhy hwyr i achub bywyd rhywun arall.

Bydd pobol yn gofyn yn aml am gael cynnwys datganiad ynghylch rhoi organau yn eu hewyllys, gyda’r bwriad o roi eu horganau ar gyfer eu trawsblannu ar ôl eu marwolaeth.
Ond mae’n debyg y bydd yn llawer rhy hwyr i allu trawsblannu eu horganau erbyn i’ch ewyllys gael ei darllen.

Dim ond 1% o’r boblogaeth sy’n marw mewn ffordd sy’n golygu y gallan nhw fod yn rhoddwyr organau gan fod angen i organau gael eu trawsblannu yn fuan iawn ar ôl marwolaeth, a rhaid bod y rhoddwr wedi marw mewn ysbyty o dan amodau penodol.

Bydd nyrsys sy’n arbenigo mewn rhoi organau yn edrych a yw unigolyn ar Gofrestr Rhoddwyr Organau y Gwasanaeth Iechyd (GIG), a hefyd bydd y mater yn cael ei drafod gyda theuluoedd rhoddwyr posibl.

Ond, os nad yw rhoddwr wedi rhoi gwybod i’w deulu am ei benderfyniad i roi ei organau, mae’n bosibl na fyddan nhw’n anrhydeddu ei benderfyniad, gan wrthod cydnabod y ffaith ei fod ar y gofrestr rhoddwyr organau, neu wrthod derbyn cydsyniad tybiedig.

“Angen trafod”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething: “Yn ystod yr Wythnos Byw Nawr eleni, byddwn yn rhoi sylw i faterion sy’n ymwneud â marw, marwolaeth a phrofedigaeth, gan fanteisio ar y cyfle i atgoffa pobl am ba mor bwysig yw hi i gofnodi eu penderfyniad i roi organau.

“Roedd ein hymgyrch ddiwethaf yn pwysleisio pwysigrwydd siarad â theulu a ffrindiau ynghylch rhoi organau. Hoffwn bwysleisio’r neges honno unwaith yn rhagor drwy ofyn i gyfreithwyr, a’r rheini sy’n cynnig gwasanaeth ysgrifennu ewyllysiau, i atgoffa eu cleientiaid i drafod eu penderfyniad gyda theulu a ffrindiau.

“Yn amlach na pheidio, erbyn i ewyllys gael ei darllen, bydd wedi mynd yn rhy hwyr i weithredu penderfyniad yr unigolyn i roi ei organau a helpu rhywun sy’n aros am drawsblaniad a allai achub ei fywyd.

“Felly, gwnewch yn siŵr bod eich penderfyniad i achub bywyd rhywun arall drwy roi eich organau yn cael ei weithredu – gwnewch amser i gael sgwrs â’ch teulu a’ch ffrindiau.”