Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad llanc 16 oed o Wrecsam.

Dydy Kai Jones ddim wedi cael ei weld ers prynhawn dydd Sadwrn, pan oedd e ger archfarchnad Tesco yng Nghefn Mawr.

Ar y pryd, roedd e’n gwisgo siaced Adidas ddu, a throwsus ac esgidiau du.

Mae e’n 5’6″ a chanddo wallt brown.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.