Mae sied â modur wedi torri’r record cyflymdra ar dir heddiw, wrth gyrraedd cyflymdra o 101 milltir yr awr.

80 milltir yr awr oedd y record flaenorol, ac mae’r perchennog Kevin Nicks wedi torri ei record ei hun ar draeth Pentwyn yn Sir Gaerfyrddin. Mae lle i gredu mai hwn yw’r unig sied modurol yn y byd.

Mae wedi costio mwy na £13,000 hyd yma, ac mae’n cynnwys injan sy’n fwy pwerus na llawer o geir modur.

Mae wedi torri’r record cyflymdra ar y traeth lle gwnaeth Syr Malcolm Campbell dorri’r record yn ei Blue Bird yn y 1920au.

Fe fydd y beiciwr modur Zef Eisenberg hefyd yn ceisio torri’r record ar feic modur, gan anelu i fynd yn gyflymach na 200 milltir yr awr – 194.5 milltir yr awr yw’r cyflymdra i’w guro. Bu bron iddo farw wrth geisio torri’r record flwyddyn a hanner yn ôl.