Mae dau ddyn ifanc o sir Gaerfyrddin wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddwyn beic cwad.
Fe gafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw ar ôl i rywun weld beic cwad a char yn cael ei yrru am tua 1:15 fore ddoe (dydd Iau, Mai 10).
Ar ôl stopio’r car, fe gafodd y gyrrwr, sef dyn 19 oed o Langadog, ei arestio ar amheuaeth o ladrata ac am fethu â stopio.
Yn ddiweddarach wedyn, fe gafodd dyn 18 oed o Rydaman ei arestio ar amheuaeth o ddwyn beic cwad.
Fe gafodd y beic cwad ei ddwyn o ardal Llandeilo, ac mae’r ddau’n parhau yn y ddalfa.