Bydd rhai o enwau mawr canu pop Cymraeg yn dod at ei gilydd eto i ddathlu caneuon oes aur yr Opera Roc Gymraeg.

‘Epilog’ fydd enw’r cyngerdd arbennig, ac mae disgwyl perfformiadau gan sawl seren bop o’r 1970au a’r 1980au, gan gynnwys Meic Stevens, Cleif Harpwood, Delwyn Sion a Tecwyn Ifan.

Yn ogystal bydd Ac Eraill a Sidan – dau grŵp sydd heb berfformio ers degawdau – yn dychwelyd i’r llwyfan ar gyfer y cyngerdd.

Bydd caneuon o’r Operâu Roc Nia Ben Aur, Melltith ar y Nyth, Jiwdas a Gorffennwyd yn ogystal ag operâu roc llai adnabyddus na gafodd eu rhyddhau ar record erioed megis Yr Anwariaid ac Etifeddiaeth Drwy’r Mwg.

Ond, nid cenedlaethau’r gorffennol fydd yr unig rai fydd yn cymryd rhan, ac mae disgwyl cyfraniadau gan Gruff ab Arwel, canwr Bitw; a Huw Evans, canwr H Hawkline.

“Noson unigryw”

“Mae’n mynd i fod yn noson unigryw, yn ddathliad, yn gyfle i gofio ond yn bennaf i fwynhau sioe gerddorol anhygoel fydd ar lwyfan am un noson yn unig,” meddai Alun Llwyd o label Turnstile Music, sef cynhyrchwyr y digwyddiad.

Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal fel rhan o Ŵyl y Llais, yn Theatr Newydd, Caerdydd, ar Fehefin 15.

Hefyd mae yn fwriad cyhoeddi casgliad o ganeuon yr Operâu Roc, wedi ei guradu gan Dyl Mei.