Mae’r rhestrau byrion ar gyfer gwahanol gategorïau Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018 wedi’u cyhoeddi.

Ymhlith yr awduron Cymraeg sydd ar y rhestr mae Mihangel Morgan, a’i lyfr Hen Bethau Anghofiedig; a’r bardd, Gwyneth Lewis, a’i chasgliad Treiglo.

Mae’r wobr yn cael ei dyfarnu i weithiau creadigol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac mi fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yng Nghaerdydd ar Fehefin 26.

Bydd gwobr o £1,000 i enillydd pob categori, ac mi fydd prif wobr o £3,000 yn cael ei rhoi i brif enillydd y noson.

Ar y panel beirniadu Cymraeg eleni mae’r cyflwynydd Beti George; y prifardd, Aneirin Karadog; a’r nofelydd, Caryl Lewis.

Y rhestrau byrion yn y categorïau Cymraeg

  • Gwobr Farddoniaeth
    • Llif Coch Awst, Hywel Griffiths (Cyhoeddiadau Barddas)
    • Treiglo, Gwyneth Lewis (Cyhoeddiadau Barddas)
    • Caeth a Rhydd, Peredur Lynch (Gwasg Carreg Gwalch)
  • Gwobr Ffuglen
    • Gwales, Catrin Dafydd (Y Lolfa)
    • Fabula, Llŷr Gwyn Lewis (Y Lolfa)
    • Hen Bethau Anghofiedig, Mihangel Morgan (Y Lolfa)
  • Gwobr Ffeithiol Greadigol
    • Meddyginiaethau Gwerin Cymru, Anne Elizabeth Williams (Y Lolfa)
    • Blodau Cymru: Byd y Planhigion, Goronwy Wynne (Y Lolfa)
    • Ar Drywydd Niclas y Glais, Hefin Wyn (Y Lolfa)

Saesneg

  • Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias
    • All fours, Nia Davies (Bloodaxe Books)
    • The Mabinogi, Matthew Francis (Faber & Faber)
    • Diary of the Last Man, Robert Minhinnick (Carcanet Press)
  • Gwobr Ffuglen
    • Hummingbird, Tristan Hughes (Parthian)
    • Light Switches Are My Kryptonite, Crystal Jeans (Honno)
    • Bad Ideas \ Chemicals, Lloyd Markham (Parthian)
  • Gwobr Ffeithiol Greadigol
    • Icebreaker, Horatio Clare (Chatto & Windus)
    • David Jones: Engraver, Soldier, Painter, Poet, Thomas Dilworth (Jonathan Cape)
    • All that is Wales, M. Wynn Thomas (Gwasg Prifysgol Cymru)