Bardd o Brydain, sy’n enedigol o Zambia, sydd wedi ennill Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas eleni.

Roedd Kayo Chingonyi ymhlith chwe pherson a oedd ar y rhestr fer, ac fe dderbyniodd y wobr gwerth £30,000 mewn seremoni ym Mhrifysgol Abertawe.

Kumakanda oedd enw ei ddarn buddugol, ac mae’r casgliad yma o farddoniaeth yn mynd i’r afael a sawl thema gan gynnwys hunaniaeth Brydeinig a hil.

“Syfrdanu”

“Rwyf wedi fy syfrdanu,” meddai Kayo Chingonyi wrth dderbyn y wobr gan yr actor Michael Sheen, ac wyres Dylan Thomas, Hannah Ellis. “Mae’n wych cael gwobr yn enw Dylan Thomas.

“Cefais fy nghyflwyno i waith Dylan Thomas gan athrawes ysbrydoledig iawn a ddarllenodd Dan y Wennallt i mi, ac mae ei waith wedi fy hudo ers hynny.”

Y wobr

Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yw gwobr lenyddol fwyaf y byd ar gyfer awduron ifanc 39 oed neu iau, ac mae’n agored i awduron o bob gwlad sy’n ysgrifennu yn Saesneg.

Prifysgol Abertawe sy’n dyfarnu’r wobr, ac mae modd ymgeisio â ffuglen o bob ffurf, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a drama.