Bydd cyfres o ffilmiau am ‘drosedd cyfeillgarwch’ yn cael eu dangos am y tro cyntaf yng Nghasnewydd ddydd Gwener (Mai 11).

Math o drosedd casineb yw ‘trosedd cyfeillgarwch’, neu ‘mate crime’, lle mae pobol fregus yn cael eu cam-drin gan rywun sy’n honni eu bod yn ffrind.

Mae’r ffilmiau wedi’u hariannu gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, a’n seiliedig ar brofiadau aelodau Pobl yn Gyntaf  Casnewydd a Pobl yn Gyntaf Torfaen.

Grwpiau sydd yn cael eu rhedeg gan bobol anabl yng Ngwent, ac yn eu cynrychioli, yw’r ddau yma. Bydd y ffilmiau’n cael eu dangos yn Theatr Glan yr Afon.

“Cymryd mantais”

“Dydy llawer o’r unigolion yma ddim yn sylwi pan mae rhywun yn cymryd mantais ohonyn nhw,” meddai Joe Blackley, o Pobl yn Gyntaf  Casnewydd.

“Bydd y ffilmiau yma yn eu gwneud yn ymwybodol o’r mater, a’n rhoi hyder iddyn nhw adrodd ‘troseddau cyfeillgarwch’ i’r heddlu.”