Mae’n “allweddol” bod gan bobol hŷn “lais cryf” tros faterion sy’n ymwneud a’u bywydau, yn ôl Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru.

Daw rhybudd Sarah Rochira mewn adroddiad newydd, sy’n nodi nad yw pobol hŷn ledled Cymru yn medru cael mynediad at wasanaethau eiriolaeth, na’n ymwybodol ohonyn nhw.

Trwy wasanaethau eiriolaeth mae modd i unigolyn oedrannus gael ei gynrychioli gan eiriolwr, sy’n sicrhau bod prosesau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu gweithredu’n gywir.

Mae’r gwasanaethau yma yn hanfodol i helpu pobol i leisio eu barn ac yn sicrhau bod eu hawliau’n cael eu parchu, yn ôl yr adroddiad.

Tanseilio

“Pan na fydd gan bobol hŷn lais cryf, bydd hyn yn tanseilio eu hunaniaeth, eu hyder a’u hawliau yn sylweddol,” meddai Sarah Rochira.

“Mae eiriolaeth annibynnol yn allweddol i sicrhau bod lleisiau pobol hŷn yn cael eu clywed ac y gwrandewir arnynt.”

Bellach, mae’r Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd i gymryd sawl cam er mwyn mynd i’r afael a’r broblem.

Hoffai weld ymgais i godi ymwybyddiaeth am wasanaethau eiriolaeth, ac ymdrechion i gynnig y gwasanaethau i bobol hŷn mewn cartrefi gofal.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

“Gall wasanaethau Eirioli Annibynnol gefnogi pobl i sicrhau fod eu lleisiau yn cael eu clywed wrth iddynt wneud dewisiadau am eu bywydau eu hunain, ac mae sicrhau fod gan unigolion lais cryf a rheolaeth yn un o’n hegwyddorion allweddol. Mae hyn wedi ei adlewyrchu’n glir mewn deddfwriaeth a pholisïau rydym wedi eu cyflwyno yn ddiweddar.

“Rydym yn croesawu’r adroddiad a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r Comisiynydd i wella ansawdd, cysondeb ac argaeledd Eiriolaeth Annibynnol yng Nghymru.”