Mae mwy na 500 o rieni wedi bod ar gwrs cychwynnol am ddim i ddysgu Cymraeg drwy glwb wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae ‘Clwb Cwtsh’ yn rhaglen flasu wyth wythnos, wedi’i ddarparu ar y cyd rhwng y Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n dysgu oedolion eiriau ac ymadroddion i’w defnyddio gyda phlant bach.

Mae’r rheini yn dod â’u plant i’r sesiwn ac maen nhw’n cael eu diddanu gan swyddogion y clwb drwy’r Gymraeg, tra bod yr oedolion yn dysgu.

Y gobaith yw bod yr oedolion yn cael blas ar y cwrs ac yn dechrau ar ddosbarthiadau Cymraeg i Oedolion eraill, ond does dim manylion eto ar faint o bobol sy’n parhau i ddysgu.

“Hollbwysig i gyrraedd y miliwn”

“Mae darparu mwy o gyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg yn hollbwysig er mwyn cyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050,” meddai Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan.

“Mae cynnig adloniant i blant tra bydd eu rhieni yn dysgu yn ffordd greadigol o greu mwy o gyfleoedd i oedolion gychwyn ar eu taith i fod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.

“Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cymryd rhan yng Nghlwb Cwtsh, ac i Fudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am ddarparu cynllun mor arloesol.”

Mae disgwyl i’r cynllun barhau.