O holl bobloedd gwledydd Prydain, y Cymry sydd fwyaf parod i gefnu ar Facebook, yn ôl arolwg newydd.

Â’r cwmni dan y lach am rannu manylion personol defnyddwyr heb eu cydsyniad, mae nifer cynyddol o bobol wedi dechrau dileu eu cyfrifon.

Ac yn sgil arolwg wnaeth holi 2,000 o bobol ledled y Deyrnas Unedig, mae wedi dod i’r amlwg bod pobol Cymru yn arwain y gad.

Mae 12% o Gymry wedi dileu eu cyfrifon ers i fethiant Facebook ddod i’r fei, sydd ychydig yn uwch na’r cyfartaledd ledled gwledydd Prydain, sef 9%.

Yn ogystal, mae pobol Cymru yn fwy gwyliadwrus ers y sgandal, gyda 12% yn dweud eu bod yn llai tebygol o rannu manylion personol ar Facebook erbyn hyn – 10% oedd y ffigwr ledled gwledydd Prydain.

Aberth

“Mae’r arolwg yma yn dangos bod nifer cynyddol o bobol wir wedi cael eu heffeithio gan fethiannau preifatrwydd Facebook,” meddai Charlotte McMillan, sefydlydd Storychest sef y cwmni wnaeth gynnal yr arolwg.

“Mae pobol yn dechrau deall sut mae cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn gweithredu, a sut mae eu busnesau yn gweithio. Maen nhw’n dechrau deall bod eu preifatrwydd wedi’i aberthu.”