Mae llefarydd Materion Cymreig y Ceidwadwyr yn San Steffan, Christina Rees wedi galw ar Lywodraeth Prydain i gynnig cymorth i’r rhai sy’n colli eu swyddi yn Virgin Media yn Abertawe.

Mae 772 o swyddi yn y fantol – a’r rheiny’n swyddi yng nghwmni Virgin Media a Sitel, sy’n gwneud gwaith ar ran Virgin Media.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru eisoes wedi cynnig cefnogaeth i’r gweithwyr, gan hwyluso cyfarfod rhwng Cyngor Abertawe, undebau llafyr, Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad lleol i ymchwilio i’r opsiynau sydd ar gael fel rhan o ymgynghoriad 45 niwrnod.

“Yn wyneb y bygythiad hwn i swyddi, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi camu i’r adwy,” meddai. “Ond y cwestiwn ar y gorwel yw hyn: ble mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig?

“Ble mae’r Ysgrifennydd Gwladol? Ble mae eu hymyrraeth? Ble mae’r gefnogaeth i’r 772 o deuluoedd?

“Tra bod pawb yn clymu eu breichiau ynghyd i gefnogi gweithlu Virgin Media, mae’r llywodraeth hon yn cyhoeddi ei bod “yn synnu ac wedi siomi” ac yn mynd yn ôl at y mater llawer mwy difrifol o ymladd ymhlith y cabinet Torïaidd.

“Fe fydd pobol Abertawe a gorllewin Cymru’n dod i’r casgliad amlwg – nad yw’r Llywodraeth Dorïaidd hon yn becso amdanyn nhw, eu swyddi na’u dinas.”