Mae sgiliau Cymraeg disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog “yn dda”, yn ôl adroddiad newydd.

Nod yr adroddiad gan y corff adolygu, Estyn, yw i gefnogi datblygiad cwricwlwm newydd i Gymru, ynghyd â helpu gwaith Llywodraeth Cymru o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn ôl y ddogfen, roedd safonau Cymraeg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru yn dangos bod disgyblion yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu’n dda trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda llawer ohonyn nhw’n defnyddio’u sgiliau mewn pynciau eraill.

Yng Ngwynedd, fe ddarganfu’r arolygwyr bod pum canolfan iaith y sir yn cynnig sylfaen gadarn i ddisgyblion o deuluoedd di-Gymraeg i ddysgu’n ddwyieithog.

Yn yr un modd, fe wnaethom nhw weld rhai disgyblion a oedd yn dechrau yn Ysgol Glan Clwyd yn symud o addysg cyfrwng Saesneg i ddysgu bron pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg ym mlynyddoedd 7 a 8.

Prif argymhellion

Ond ymhlith argymhellion yr adroddiad yw’r angen i ysgolion ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llafar eu disgyblion, a fydd yn y pen draw yn datblygu sgiliau eraill megis sgrifennu.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys cwestiynau i ysgolion ynglŷn â datblygu cyfleon i ddisgyblion allu datblygu ei sgiliau Cymraeg y tu hwnt i wersi Cymraeg.

Roedd cwestiynau eraill wedyn yn trafod yr angen i greu ethos yn yr ysgol o ran hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Creu “cenedl ddwyieithog”

Yn ôl y Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands, mae sgiliau Cymraeg da disgyblion yn cefnogi’r uchelgais o greu “cenedl ddwyieithog”.

“Mae gan y rhan fwyaf o’r penaethiaid yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog weledigaeth glir i bob disgybl wneud y cynnydd gorau posibl wrth ddatblygu’u medrau Cymraeg a meithrin ymdeimlad cryf o hunaniaeth Gymreig.

“Rydym wedi gweld enghreifftiau lle mae cyrsiau trochi wedi cael effaith go iawn ar ddatblygu medrau gwrando a siarad, a chodi safonau.

“Mae’r astudiaethau achos arfer dda yn yr adroddiad hwn yn amlygu strategaethau y gall ysgolion ac awdurdodau eraill eu modelu.”