Mae ffotograffydd o Aberystwyth wedi disgrifio ymgais i drefnu parti stryd yn y dre’ ar ddiwrnod priodas y Tywysog Harry a Meghan Markle, fel “ffwlbri”.

Bu ffrae fawr ar y wefan gymdeithasol Facebook dros y penwythnos mewn ymateb i neges gan y trefnwyr digwyddiadau, Advancing Aberystwyth Ar y Blaen, yn gofyn i fusnesau ddod â stondinau bwyd neu adloniant i ddigwyddiad yn dathlu’r briodas frenhinol ar Fai 19.

Mae’r neges wreiddiol bellach wedi’i dileu, ac yn ôl Keith Morris, mi fydd yntau’n gwneud popeth i geisio osgoi’r digwyddiad.

“Fel mae’n digwydd, dw i’n gweithio ar y diwrnod yna beth bynnag,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n gwneud priodas arall… felly mae gen i’r esgus perffaith i beidio ymwneud â’r ffwlbri yma yn Aberystwyth.

“Dw i’n teimlo ei bod yn agwedd arall ar ein sefyllfa israddol fel cymdeithas, ac fe ddylwn ni anwybyddu’r teulu yn llwyr, anwybyddu’r briodas yn llwyr, a mynd ar ein trywydd bach ni ein hunain.”

Rhaid ailystyried

Mae’r ffotograffydd hefyd yn dweud bod digwyddiadau cyhoeddus o’r fath yn y dre’ wedi profi’n siomedig yn y gorffennol, a’i fod yn gobeithio mai’r un fydd hanes y digwyddiad hwn.

“Mae yna bartïon o’r fath wedi bod o’r blaen, a dathliadau cyhoeddus brenhinol, a dy’n nhw byth wedi cael ymateb mawr yn y gorffennol, a synnwn i ddim y bydd yr ymateb i’r gwahoddiad yma yn un siomedig,” meddai eto.

“Dw i’n gobeithio y bydd yr ymateb yn siomedig. Dw i’n sicr yn meddwl y dylen nhw ailystyried gwneud rhywbeth yn gyhoeddus.

“Mae’n iawn i bobol ddathlu yn bersonol, trwy gael partïon yn ei gerddi cefn nhw… Ond i wneud rhywbeth cyhoeddus – fel ein bod ni fel tre’ yn rhoi ein sêl bendith ni – mae’n anffodus, i ddweud y lleia’.”