Mae’r heddlu yng Nghaerdydd yn apelio am wybodaeth ar ôl ymosodiad rhywiol ar ddynes yn ardal y Rhath o’r ddinas.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn oriau mân bore Iau ar Wordsworth Avenue, ger Ffordd Casnewydd, ac mae dyn 26 o ardal Glanyrafon – Riverside – wedi ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Mae ymchwiliad yn parhau gan CID Caerdydd ac mae’r ddynes yn derbyn cymorth gan arbenigwyr mewn ymdrin ag effeithiau ymosodiadau rhywiol.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101 gan nodi cyfeirnod 155234.