Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i feiciwr modur gael ei ladd mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam bnawn ddoe.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y beic modur a char Fiat 500 ar y gyffordd rhwng yr A525 a’r A483 ychydig wedi 4pm. Roedd y beiciwr modur eisoes wedi marw erbyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd.

Meddai’r Rhingyll Raymond Williams o’r Uned Plismona Ffyrdd:

“Mi wyddon ni fod yr ardal yn brysur ar y pryd ac rydym yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a allai fod wedi gweld y beic modur – a oedd yn teithio o gyfeiriad cyffredinol Coedpoeth – cyn y gwrthdrawid, i gysylltu â ni. Rydym yn apelio hefyd ar i unrhyw un a all fod â lluniau dash cam i gysylltu efo ni ar 101 neu drwy sgwrs fyw ar y we gan nodi cyfeirnod W057541.”